To read this article in English, click .
Bydd cyfraith ailgylchu yn y gweithle newydd yn dod i rym ar 6 Ebrill 2024.
Bydd yn golygu bod cyfrifoldeb ar bob gweithle i wahanu eu gwastraff i鈥檞 ailgylchu, yn yr un modd ag y mae鈥檙 rhan fwyaf o aelwydydd eisoes yn ei wneud ledled Cymru.
Bydd y newidiadau hyn yn gwella ansawdd ailgylchu a faint sy鈥檔 cael ei ailgylchu yng Nghymru gan hefyd helpu i leihau ein hallyriadau carbon a gosod y sylfeini ar gyfer economi gryfach, wyrddach.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: "Bydd y gyfraith ailgylchu newydd yn sicrhau ein bod yn casglu cyflenwad cadarn o ddeunyddiau o ansawdd uchel wedi'u hailgylchu, y gellir eu dychwelyd i'r economi.
"Os gwnawn ni i gyd weithio gyda'n gilydd, gallwn leihau ein heffaith ar yr hinsawdd, a chreu Cymru lanach, wyrddach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Ychwanegodd Emma Hallett o WRAP Cymru: "Nod y ddeddfwriaeth newydd yw gwella ansawdd ailgylchu a faint sy鈥檔 cael ei ailgylchu, gan ymestyn cyfnod defnyddio deunyddiau cyhyd 芒 phosibl. Bydd hyn yn dod 芒 llawer iawn o gyfleoedd economaidd, yn cefnogi cadwyni cyflenwi, yn adeiladu cymunedau gwyrddach ac yn cefnogi economi gylchol i Gymru."
Beth mae'n ei olygu i fusnesau?

Gwnaethom ni siarad 芒 Marten Lewis, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd Bluestone i gael gwybod beth mae鈥檙 newidiadau sydd i ddod yn ei olygu i鈥檞 fusnes ef a sut maen nhw鈥檔 paratoi ar gyfer y newid yn y gyfraith.
Dywedodd Marten: "Mae ailgylchu yn gwneud synnwyr ariannol i鈥檙 busnes. Mae鈥檔 rhatach, mae鈥檔 lleihau ein h么l troed carbon, mae鈥檔 cyd-fynd 芒鈥檔 gwerthoedd, ac mae鈥檔 cyflawni ein cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol."
Mae cynaliadwyedd wrth wraidd diwylliant Bluestone, felly mae ailgylchu bob amser wedi bod yn brif flaenoriaeth.
O ddefnyddio sgil-gynhyrchion cewynnau wedi鈥檜 hailgylchu i ddatblygu tarmac, a choginio gyda nwy sy鈥檔 deillio o wastraff bwyd, i osod mannau ail-lenwi d诺r a pheidio 芒 gwerthu d诺r mewn poteli plastig ledled y safle. Mae鈥檙 sefydliad bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd ac arloesol o leihau ei 么l troed carbon.
Dywedodd Marten: "Rydyn ni wedi bod yn gwahanu ein cynhyrchion gwastraff ers sawl blwyddyn, felly dydy addasu i鈥檙 ddeddfwriaeth newydd ddim wedi bod yn rhy wahanol.
"Y gwir her i ni oedd cyfleu鈥檙 newidiadau i鈥檔 900 o aelodau staff a 4000 o westeion wythnosol. Rydyn ni wedi datblygu a gweithredu ymgyrch gyfathrebu glir a chryno sy鈥檔 cynnwys pecyn cymorth a hyfforddiant ar gyfer pob aelod o staff, arwyddion clir, a gwybodaeth ym mhob caban gwyliau ac ar draws y safle, a chanllawiau ar sgriniau teledu mewn mannau cyhoeddus.

"Rydyn ni hefyd wedi cael gwared ar yr hen fagiau gwyrdd yn llwyr ac wedi sefydlu system codau lliw gwbl newydd sy鈥檔 glir, ac yn hawdd i鈥檞 deall.
"Mae鈥檙 ymateb cyffredinol i鈥檙 newidiadau gan staff a gwesteion wedi bod yn gadarnhaol. Gyda鈥檙 rhan fwyaf o bobl yn dweud bod y biniau newydd yn gwneud y broses ailgylchu yn haws i鈥檞 deall o ran ble mae gwahanol bethau鈥檔 mynd."
"Y peth allweddol o ran cydymffurfio 芒鈥檙 newidiadau yn y gyfraith, yn enwedig yn ein sector ni, lle rydyn n鈥檔 ymdrin 芒 llawer iawn o staff a gwesteion, yw cynllunio ymhell ymlaen llaw. Y cynharaf y gallwch chi ddechrau gweithredu鈥檙 newidiadau, gorau oll.鈥
Mewn dim ond 20 mlynedd, mae Cymru wedi mynd o ailgylchu llai na 5% i ailgylchu 65% o鈥檔 gwastraff ac mae hi nawr yn drydedd yn y byd. Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn parhau i gefnogi ymrwymiad Cymru i ddod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050.
I gael rhagor o wybodaeth o ran sut y bydd y newidiadau鈥檔 effeithio ar eich gweithle chi ac am ganllaw ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud ewch i .