To read this article in English, click .

Bydd y gyfraith newydd, fydd yn gweld gweithleoedd yn gwahanu eu gwastraff i鈥檞 ailgylchu yn yr un modd ag y mae aelwydydd yn y rhan fwyaf o Gymru eisoes yn ei wneud, yn dechrau ar 6 Ebrill.

Bydd hyn yn gwella ansawdd ailgylchu a faint o wastraff sy鈥檔 cael ei ailgylchu yng Nghymru.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd: 鈥淏ydd cyfraith ailgylchu yn y gweithle newydd Cymru yn bwysig er mwyn cyflawni nodau yr argyfyngau hinsawdd a natur ond yn hollbwysig bydd yn cyflawni buddion i鈥檙 economi drwy gasglu cyflenwad cadarn o ddeunyddiau o ansawdd uchel sydd wedi鈥檜 hailgylchu.

"Mae hyn yn dangos sut gallwn ni weithio gyda鈥檔 gilydd i leihau ein heffaith amgylcheddol a gosod sylfeini ar gyfer economi gryfach, wyrddach."

Gall newid fod yn beth da

Linda Breen, Cynorthwyydd Gwerthu yn Canton Food Market
Linda Breen, Cynorthwyydd Gwerthu yn Canton Food Market

Mae llawer o fusnesau eisoes wedi dechrau gwneud newidiadau i鈥檞 system rheoli gwastraff ac maent wedi bod yn mwynhau buddion hynny.

, gwnaethom siarad 芒鈥檙 manwerthwr o Gaerdydd, Canton Food Market, sydd bellach yn trin gwastraff yn wahanol ac sy鈥檔 adrodd bod hynny鈥檔 haws erbyn hyn, gan hefyd arbed arian.

Dywedodd Linda Breen, Cynorthwyydd Gwerthu yn Canton Food Market: 鈥淔el llawer o fusnesau, roedd gennym bryderon am wneud y newidiadau ond fe wnaethom ddysgu yn gyflym bod newid yn gallu bod yn beth da.

鈥淩oedd ein holl wastraff yn arfer mynd i mewn i un bin mawr allan yng nghefn y safle, ond oherwydd ei faint, yn anaml iawn y byddai鈥檔 cael ei gasglu, ac roedd yn cymryd tipyn o le.

鈥淣awr, rydyn ni鈥檔 gweld bod ein gwastraff y gellir ei ailgylchu yn cael ei gasglu ddwywaith yr wythnos ac mae鈥檙 biniau llai yn cymryd llawer llai o le.

鈥淩ydyn ni hefyd yn cynhyrchu llawer llai o wastraff cyffredinol, felly rydyn ni鈥檔 arbed arian.

鈥淩ydyn ni鈥檔 falch ein bod ni eisoes yn gwbl barod ar gyfer y gyfraith newydd cyn iddi ddechrau ym mis Ebrill. Mae hefyd wedi gwneud i ni feddwl llawer mwy am ein hailgylchu a ffyrdd eraill y gallwn ni leihau ein gwastraff cyffredinol.鈥

Canlyniadau hynod gadarnhaol

Becky Jones, Rheolwr Marchnata Cei鈥檙 F么r-forwyn
Becky Jones, Rheolwr Marchnata Cei鈥檙 F么r-forwyn

Fe wnaethom ni siarad 芒 Cei鈥檙 F么r-forwyn ym Mae Caerdydd hefyd, sydd wedi cefnogi鈥檙 holl werthwyr bwyd a鈥檙 bwytai yn y bae i wneud newidiadau i鈥檞 dull o reoli gwastraff.

Ers gwneud yr addasiadau i鈥檞 biniau a gwahanu eu gwastraff, maen nhw wedi adrodd bod costau gwaredu gwastraff wedi lleihau dwy ran o dair.

Mae hyn hefyd wedi arwain at gynnydd i鈥檙 cyfraddau ailgylchu, ac yn ei dro, wedi lleihau costau rheoli gwastraff.

Dywedodd Becky Jones, Rheolwr Marchnata Cei鈥檙 F么r-forwyn, 鈥淓fallai ei fod yn ymddangos yn anodd, ond mae鈥檙 broses wedi bod yn syfrdanol o syml, ac wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i鈥檔 hallgostau a faint sy鈥檔 cael ei ailgylchu yn gyffredinol.鈥

System ailgylchu saith ffrwd

Yn ogystal, mae Prifysgol Caerdydd yn arwain y ffordd o ran ailgylchu drwy gyflwyno ei system ailgylchu aml-ffrwd ar wah芒n newydd ar gyfer tuniau a chaniau, plastig, papur, cherdyn, gwydr a deunyddiau na ellir eu hailgylchu.

Er eu bod nhw wedi didoli eu gwastraff mewn i fwy o finiau nag sydd eu hangen o dan y ddeddf newydd, mae鈥檙 brifysgol wedi penderfynu mai dyma鈥檙 ffordd symlaf i鈥檞 gwneud hi mor hawdd 芒 phosib i鈥檞 niferoedd uchel o staff a myfyrwyr ailgylchu.

O ganlyniad, mae wedi dargyfeirio bron i 100 tunnell o wastraff bwyd rhag cael ei waredu.

Yn drydydd yn fyd-eang mewn ailgylchu gwastraff cartref

Mewn dim ond 20 mlynedd, mae Cymru wedi mynd o ailgylchu llai na 5% i ailgylchu mwy na 65% o鈥檔 gwastraff dinesig ac mae bellach yn drydydd yn y byd am ailgylchu gwastraff cartref. Mae hyn yn helpu i arbed tua 400,000 tunnell o allyriadau carbon bob blwyddyn.

Bydd y gyfraith newydd yn helpu i barhau i wella cyfraddau ailgylchu, sicrhau bod deunyddiau yn cael eu defnyddio mor hir 芒 phosibl, creu cymunedau gwyrddach a chefnogi economi fwy cylchol.

I wybod mwy

I wybod mwy am sut bydd y newidiadau yn effeithio ar eich gweithle chi ac am ganllawiau ar yr hyn y bydd angen i chi ei wneud ewch i