To read this article in English, click here.
Flwyddyn ers gweithredu cyfraith ailgylchu yn y gweithle Cymru, mae busnesau ledled Cymru yn gweld manteision ailgylchu mwy a lleihau faint y maen nhw'n ei anfon i safleoedd tirlenwi neu i’w losgi, sy’n cynnwys arbed arian a charbon.
Cyflwynwyd y gyfraith gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2024 i annog mwy o'n gwastraff i gael ei wahanu a'i ailgylchu, a bellach mae'n helpu sefydliadau o bob maint i leihau eu heffaith amgylcheddol.
Ers Ebrill 6, 2024, mae'n ofyniad cyfreithiol i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus ddidoli eu gwastraff i'w ailgylchu.
'Mae angen i bawb wneud eu rhan'
Mae Mermaid Quay, y gyrchfan ymwelwyr ym Mae Caerdydd, wedi gweld gwelliant o 20% yn ei chyfradd ailgylchu, a chyflawnwyd y gyfradd ailgylchu uchaf, sef 71%, yn ystod un o'i chyfnodau prysuraf yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Pwysleisiodd y rheolwr marchnata, Becky Jones, bwysigrwydd negeseuon clir a chyson ynghyd â chefnogaeth barhaus, yn enwedig mewn diwydiant sydd â throsiant uchel o bersonél a staff tymhorol.
Dywedodd hi: “Yn ogystal ag arwyddion, mae gwastraff ac ailgylchu yn eitem sefydlog yn ein cyfarfod gyda thenantiaid. Rydym wedi cael ymweliadau gan dîm gwastraff masnach Cyngor Caerdydd i ddarparu cymorth ac i ateb cwestiynau, ac rydym yn cynnig cyfarfodydd unigol i roi cymorth gydag ailgylchu a rheoli gwastraff."

Yn yr un modd, lleihaodd tafarn yr Holly Bush yng ngogledd-ddwyrain Cymru faint o wastraff sy'n cael ei gasglu bob mis o ddwy draean (o dri metr ciwbig i un metr ciwbig) trwy ddidoli eu gwastraff ac ailgylchu mwy, cyn i'r gyfraith ddechrau.
Roedd Grŵp Camlas Plas Kynaston (PKC), sy'n rhedeg y dafarn, Oriel Ebenezer a Chanolfan Ymwelwyr Safle Treftadaeth y Byd Pontcysyllte, yn falch o weld y gyfraith hon yn cael ei chyflwyno.
Dywedodd David Metcalfe, cyfarwyddwr Grŵp PKC: "Mae'r gyfraith ailgylchu yn y gweithle yn atgyfnerthu'r hyn yr ydym eisoes yn ei wneud, ac mae angen i bawb wneud eu rhan. Yn ogystal ag ailgylchu, mae angen i ni ddod o hyd i ffyrdd o leihau faint o wastraff sy'n cael ei gynhyrchu yn y lle cyntaf a chwilio am ffyrdd o symud ymlaen i economi gylchol.
“Rydym bellach yn edrych ar ble mae'r gwastraff yn mynd oddi yma, sy'n rhan o'n cylch gwaith o'n Canolfan Lliniaru Argyfwng Hinsawdd i fyny'r grisiau yn Oriel Ebenezer."

Mae Parc Gwyliau Bluestone yn Sir Benfro yn stori lwyddiant arall. Mae'r parc gwyliau wedi hyrwyddo ailgylchu ers amser maith a thrwy fonitro gofalus a nodi meysydd i'w gwella, mae wedi lleihau halogiad yn eu hailgylchu dros 50% yn ystod y 12 mis diwethaf.
Drwy ailgylchu yn effeithiol a lleihau halogiad, mae'r tîm erbyn hyn yn canolbwyntio ar wastraff cyffredinol. Trwy newid o fagiau bin du i fagiau bin clir, gallant fonitro, nodi a lleihau gwastraff cyffredinol ymhellach a gwella ailgylchu. Maen nhw hefyd yn ystyried ffyrdd o droi gwastraff yn nwyddau.
Dywedodd Marten Lewis, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd Bluestone: "Mae'r gyfraith wedi ein helpu i ailgylchu'n fwy effeithlon a chreu cyfleoedd ar gyfer gwastraff cyffredinol ac i ailgylchu mwy eto. Rydyn ni eisiau ailgylchu cymaint â phosibl ond yn y pen draw, rydyn ni eisiau bod â dim gwastraff.
“Y ffordd orau o’i daclo yw deall beth sydd yn y gwastraff cyffredinol a dechrau ei ddileu."

Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd: "Mae gweithleoedd ledled Cymru wedi dangos ymrwymiad gwirioneddol i gefnogi ein huchelgeisiau ailgylchu dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae eu hymdrechion yn ein helpu i wneud cynnydd ystyrlon.
"Wrth i ni ddathlu pen-blwydd cyntaf y gyfraith ailgylchu yn y gweithle, mae'n gyfle i ddiolch i'r rhai hynny sydd bellach yn gwahanu ac yn ailgylchu eu gwastraff yn rheolaidd. Mae'n ein helpu i gadw deunyddiau mewn defnydd cyhyd â phosibl i helpu ein heconomi a chefnogi ein cadwyni cyflenwi."
Mae'r gyfraith ailgylchu yn y gweithle yn ei gwneud yn ofynnol i bob gweithle wahanu bwyd; papur a cherdyn; gwydr; a metel, plastigau a chartonau.