º£½ÇÊÓÆµ

Oops.

Our website is temporarily unavailable in your location.

We are working hard to get it back online.

PRIVACY
º£½ÇÊÓÆµ

Cyfraith ailgylchu yn y gweithle yn trawsnewid agwedd busnesau Cymru at wastraff

Mae'r gyfraith ddiweddar yn helpu sefydliadau o bob maint i leihau eu heffaith amgylcheddol

Advertising
feature from
Cyflwynwyd deddf newydd y llynedd(Image: Welsh Government)

To read this article in English, click here.

Flwyddyn ers gweithredu cyfraith ailgylchu yn y gweithle Cymru, mae busnesau ledled Cymru yn gweld manteision ailgylchu mwy a lleihau faint y maen nhw'n ei anfon i safleoedd tirlenwi neu i’w losgi, sy’n cynnwys arbed arian a charbon.

Cyflwynwyd y gyfraith gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2024 i annog mwy o'n gwastraff i gael ei wahanu a'i ailgylchu, a bellach mae'n helpu sefydliadau o bob maint i leihau eu heffaith amgylcheddol.

Ers Ebrill 6, 2024, mae'n ofyniad cyfreithiol i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus ddidoli eu gwastraff i'w ailgylchu.

'Mae angen i bawb wneud eu rhan'

Mae Mermaid Quay, y gyrchfan ymwelwyr ym Mae Caerdydd, wedi gweld gwelliant o 20% yn ei chyfradd ailgylchu, a chyflawnwyd y gyfradd ailgylchu uchaf, sef 71%, yn ystod un o'i chyfnodau prysuraf yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Pwysleisiodd y rheolwr marchnata, Becky Jones, bwysigrwydd negeseuon clir a chyson ynghyd â chefnogaeth barhaus, yn enwedig mewn diwydiant sydd â throsiant uchel o bersonél a staff tymhorol.

Dywedodd hi: “Yn ogystal ag arwyddion, mae gwastraff ac ailgylchu yn eitem sefydlog yn ein cyfarfod gyda thenantiaid. Rydym wedi cael ymweliadau gan dîm gwastraff masnach Cyngor Caerdydd i ddarparu cymorth ac i ateb cwestiynau, ac rydym yn cynnig cyfarfodydd unigol i roi cymorth gydag ailgylchu a rheoli gwastraff."

Becky Jones, rheolwr marchnata Mermaid Quay(Image: Welsh Government)

Yn yr un modd, lleihaodd tafarn yr Holly Bush yng ngogledd-ddwyrain Cymru faint o wastraff sy'n cael ei gasglu bob mis o ddwy draean (o dri metr ciwbig i un metr ciwbig) trwy ddidoli eu gwastraff ac ailgylchu mwy, cyn i'r gyfraith ddechrau.